(map o wefan Wikipedia)
Mae Twrci a Rwsia wedi cytuno ar gynllun ar gyfer Syria gyfan, yn ôl asiantaeth newyddion wladol Twrci.

Dywed yr asiantaeth, Anadolu, fod y ddwy wlad yn ceisio sicrhau y bydd y cadoediad yn dod i rym am hanner nos heno.

Fodd bynnag, nid yw grwpiau gwrthryfelwyr yn rhan o’r cytundeb.

Os bydd y cadoediad yn parhau, bydd Twrci a Rwsia yn arwain proses heddwch, gyda’r ddwy wlad yn gweithredu fel gwarantwyr.

Daw’r adroddiad am y cadoediad wrth i o leiaf 20 o bobl gyffredin gael eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr ar bentref yn nwyrain Syria a oedd yn nwylo’r Wladwriaeth Islamaidd.