(llun o wefan Star Wars)
Mae’r actores Carrie Fisher, a fu’n chwarae rhan y Dywysoges Leia mewn pedair ffilm Star Wars, wedi marw yn 60 oed.

Roedd hi wedi dioddef trawiad ar y galon wrth hedfan yn ôl o Lundain i Los Angeles ddydd Gwener.

Mae un o sêr enwocaf Hollywood, Harrison Ford, ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo.

“Roedd Carrie yn unigryw, disglair a gwreiddiol,” meddai. “Yn ddigrif ac yn eofn yn emosiynol. Fe wnaeth fyw ei bywyd yn ddewr.”

Fe ddaeth Carrie Fisher i enwogrwydd rhyngwladol pan ymddangosodd yn ffilm gyntaf Star Wars yn 1977.

Yn ei bywyd oddi ar y sgrin, fodd bynnag, fe fu’n dioddef o broblemau’n ymwneud â diod, cyffuriau a salwch meddwl.