Y gwaith o chwilio am yr awyren (Vladimir Verengurin/Gweinyddiaeth Sefyllfaoedd Argyfwng Rwsia)
Mae chwilwyr wedi dod o hyd i focs du’r awyren filwrol o Rwsia a gwympodd i’r Môr Du ddydd Nadolig.

Fe gawson nhw’r cofnodydd teithiau yn y môr rhyw filltir o’r lan, tua’r lle y cafodd yr awyren ei chofnodi ddiwetha’.

Fe ddylai’r wybodaeth yn y bocs helpu archwilwyr i ddygu beth yn union ddigwyddodd i’r awyren a pham ei bod wedi cwympo.

Ar y ffordd i Syria

Mae pob un o’r 92 ar fwrdd yr awyren Tu-154 wedi marw, gan gynnwys aelodau o gôr a band milwrol enwog a oedd ar eu ffordd i ddiddanu milwyr Rwsia yn Syria.

Er fod dyfalu mai ymosodiad brawychol oedd yn gyfrifol am ddiflaniad yr awyren, mae penaethiaid amddiffyn yn Rwsia wedi gwadu hynny.

Roedd yr awyren newydd godi o faes awyr Sochi ar lannau’r Môr Du.