Mae milwyr Rwsia wedi dod o hyd i fedd torfol yn ninas Aleppo yn Syria, lle mae’r cyrff yn dangos arwyddion i’r bobol gael eu harteithio a’u hanafu’n ddifrifol cyn marw.

Mae Rwsia yn dweud fod “dwsinau” o gyrff wedi’u canfod – rhai wedi’u harteithio, ac eraill wedi’u saethu – cyn eu claddu yn ninas fwya’r wlad yn dilyn gwarchae.

Mae’r Uwch Gapten Konashenkov o lu awyr Rwsia wedi beirniadu gwrthryfelwyr am y lladd, gan mai nhw oedd yn rheoli dinas Aleppo nes iddyn nhw golli grym yn gynharach y mis hwn.