Mae rapiwr wedi cael ei saethu tra’n eistedd yn ei gar mewn cyffordd yn ninas Efrog Newydd.

Mae cyfreithiwr y cerddor, Troy Ave (enw iawn, Roland Collins) wedi cadarnhau iddo gael ei saethu ddwywaith tra ar ei ffordd i ymweld ag aelodau o’i deulu yn Brooklyn.

Roedd yn aros yn ei gerbyd Maserati coch pan ddaeth dyn ato a thanio gwn nifer o weithiau, gan daro’r rapiwr unwaith ar ei fraich ac unwaith yn ei ben.

Mae Roland Collins, 31, mewn cyflwr symol yn yr ysbyty, a does neb wedi’i arestio mewn perthynas â’r digwyddiad hyd yn hyn.

Mae Roland Collins ei hun ar fechnïaeth, wedi iddo yntau gael ei arestio fis Mai mewn cysylltiad ag achos o saethu mewn cyngerdd yn Manhattan. Mae wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau yn ymwneud â cheisio llofruddio.