Anis Amri
Mae nai brawychwr a ymosododd ar farchnad yn ninas Berlin wedi cael ei arestio yn Nhiwnisia.
Dywedodd yr awdurdodau bod nai Anis Amri yn un o dri sydd wedi’u harestio, a bod pob un rhwng 18 a 27 oed ac yn rhan o gell o frawychwyr.
Cawson nhw eu harestio ddydd Gwener.
Cafodd Anis Amri ei saethu’n farw gan yr heddlu ym Milan fore dydd Gwener.
Bu farw 12 o bobol a chafodd 49 eu hanafu ar ôl i lori daro i mewn i farchnad ddydd Llun, a chafodd gyrrwr gwreiddiol y lori ei ladd.
Mae ei nai wedi cadarnhau bod y ddau wedi bod yn cyfathrebu drwy wefannau cymdeithasol, a bod ei ewythr yn cefnogi Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.