Mae’r actores Carrie Fisher yn gwella ar ôl cael trawiad ar y galon yn ystod taith awyren o Lundain i Los Angeles.

Dydy ei brawd Todd ddim wedi gwneud sylw am ei chyflwr, ond dywedodd ei bod hi’n derbyn gofal mewn uned gofal dwys.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd wedi achosi ei salwch, a dydy ei brawd ddim ychwaith wedi cadarnhau mai trawiad ar y galon gafodd hi.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau brys Los Angeles fod parafeddygon wedi rhoi gofal i glaf mewn maes awyr yn Los Angeles a achubodd ei bywyd, a’i bod hi wedi cael ei chludo i’r ysbyty.

Mae negeseuon o gefnogaeth iddi wedi’u rhoi ar wefannau cymdeithasol.

Roedd hi wedi bod ar daith yn ddiweddar yn hysbysebu ei hunangofiant, lle mae hi’n datgelu manylion ei pherthynas â’i chyd-seren ‘Star Wars’, Harrison Ford.

Mae hi’n honni eu bod nhw wedi cael perthynas a barodd dri mis a’i fod yntau’n briod ar y pryd yn y 1970au.

Mae disgwyl cyhoeddi’r ffilm Stars Wars VIII yn 2017.