Anis Amri (Llun: PA)
Ni fydd y byd yn cael gwybod pam fod Anis Amri wedi mynd ati i ymosod yn frawychol ar ddinas Berlin, yn ôl ei fam.

Cafodd ei saethu’n farw fore dydd Gwener gan yr heddlu ym Milan ar ôl eu bygwth â dryll.

Roedd e wedi’i amau o yrru tryc drwy ganol marchnad Nadoligaidd ddydd Llun, gan ladd 12 o bobol ac anafu 56.

Mae ei fam, Nour El Houda Hassani wedi apelio am gael dychwelyd ei weddillion i dref Oueslatia yn Nhiwnisia.

Dywedodd: “Oddi mewn iddo y mae ei gyfrinach fawr. Fe laddon nhw fe a chladdu ei gyfrinach gyda fe.

“Dw i am gael y gwirionedd am fy mab. Pwy oedd y tu ôl iddo?”

Ychwanegodd ei frawd, Abdelkader: “Mae fy mrawd yn farw. Dewch â’i weddillion i ni, un o’i fysedd hyd yn oed, ac mi’i rof yn fy mhoced. Lladdon nhw fe pan oedd e dan amheuaeth yn unig. Pam?”

Mae lle i gredu y gallai gymryd cryn amser i ddychwelyd ei gorff adref wrth i’r ymchwiliad i’r gyflafan barhau.