Mae darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi galw ar America i “gryfhau ac ehangu” cyflenwad arfau niwclear y wlad.
Mi wnaeth Donald Trump drydar y sylw ar ôl iddo gwrdd â nifer o swyddogion caffael arfau milwrol y wlad.
Ychwanegodd bod angen cryfhau’r arfau niwclear “tan fod y byd yn dod i’w iawn bwyll ynglŷn ag arfau niwclear”.
Mae’r sylwadau diweddaraf yn debyg i’r hyn ddywedodd Donald Trump yn ystod ei ymgyrch etholiadol pan awgrymodd y byddai gwledydd eraill, yn cynnwys Siapan a De Corea, yn elwa o arfogi eu hunain gydag arfau niwclear.
Mae nifer o ffigurau gan gynnwys y cyn-ymgeisydd Arlywyddol Hillary Clinton a deg o gyn-weithredwyr taflegrau niwclear, wedi rhybuddio bod Donald Trump yn gymeriad rhy dymhestlog ac afreolus i reoli arfau niwclear yr Unol Daleithiau.