Anis Amri
Mae’r dyn oedd yn cael ei amau o yrru lori fewn i farchnad yn Berlin gan ladd 12 o bobol ac anafu 48, wedi ei saethu yn farw yn Milan yn yr Eidal.

Yn ôl Gweinyddiaeth Fewnol Yr Eidal mi wnaeth Anis Amri estyn “heb oedi” am ddryll pan welodd yr heddlu yn dod ato yn ystod patrôl heddlu yn fuan y bore yma.

Fe gafodd y dyn o Diwnisia ei ladd a does “dim dwywaith” mai Anis Amri oedd y dyn.

Roedd yn cael ei amau o yrru’r lori fewn i dyrfaoedd o bobol mewn marchnad Nadolig yn Berlin ddydd llun.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn gynharach heddiw fe ddywedodd Marco Minniti, ar ran Gweinyddiaeth Fewnol yr Eidal: “Fe wnaeth un o’n heddlu ni, tra ar batrôl, stopio unigolyn oedd yn cerdded o gwmpas ac yn edrych yn amheus. A’r funud y cafodd ei stopio, fe wnaeth y dyn, heb oedi, estyn ei ddryll a saethu at yr heddwas wnaeth ofyn am gael gweld ei bapurau swyddogol… fe gafodd yr unigolyn wnaeth ymosod ar ein heddwas ei ladd.”

Carchar yn yr Eidal

Yn ôl asiantaeth newyddion yr Eidal, ANSA, fe wnaeth yr awdurdodau gadarnhau mai Anis Amri oedd y dyn a saethwyd o’i wedd gorfforol a’i olion bysedd.

Roedd awdurdodau’r Almaen wedi bod yn chwilio am y dyn 24 oed o Dwnisia, ar draws Ewrop, gyda 100,000 ewro [£84,000] yn cael eu cynnig am wybodaeth.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd Anis Amri wedi defnyddio chwe enw gwahanol a thri chenedligrwydd gwahanol wrth iddo deithio o gwmpas Ewrop.

Roedd wedi gadael Twnisia yn ystod gwrthryfel y Gwanwyn Arabaidd yn 2011 ac wedi treulio amser yn yr Eidal.

Cafodd ei drosglwyddo sawl tro rhwng carchardai yn Sisili am ymddygiad gwael, gyda’i gofnodion yn y carchar yn dweud ei fod wedi bwlio carcharorion eraill ac wedi ceisio dechrau gwrthryfeloedd.

Treuliodd dair blynedd a hanner yn y carchar am ddechrau tân mewn canolfan i ffoaduriaid a gwneud bygythiadau.

Er hyn, fe wnaeth awdurdodau’r Eidal ddim gweld unrhyw arwyddion ei fod yn cael ei radicaleiddio.