Mae heddlu’r Almaen wedi cyfadde’ eu bod yn gwybod fod ymosodwr Berlin yn un i’w wylio – a hynny am fisoedd cyn yr ymosodiad brawychol ar farchnad Nadolig yn Berlin yr wythnos hon.

Roedd Anis Amri wedi bod dan wyliadwriaeth yr heddlu am chwe mis eleni, cyn iddyn nhw benderfynu dod â’r ymchwiliad i ben.

Mae’r troseddwr ar restr yr Almaen o eithafwyr Islamaidd posib, ac mae wedi llwyddo i aros yn y wlad er ymdrech i’w alltudio.

Roedd y dyn o Tiwnisia yn gyfrifol am ymosodiad ym marchnad Nadolig Berlin ddydd Llun yr wythnos hon, lle cafodd deuddeg o bobol eu lladd, a 48 arall eu hanafu.