Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod cysylltiad rhwng bwyta cig sydd wedi ei brosesu, a gwaethygiad yn symptomau’r fogfa (neu asthma).

Daw’r data o astudiaeth yn Ffrainc sydd wedi dilyn 2,000 dioddefwr asthma o bum ddinas Ffrengig am dros ugain mlynedd.

Maen nhw’n dweud fod rhywun sy’n bwyta  pedwar neu mwy o fathau o gig wedi’i brosesu bob wythnos, yn teimlo’r effaith fwyaf. Mae’r astudiaeth wedi’i chyhoeddi ar-lein gan gyfnodolyn Thorax.

Mae cig sydd wedi ei brosesu yn cynnwys nitrad sydd, o bosib, yn cyfrannu at lid y biben anadlu, un o brif nodweddion asthma.

Yn ôl yr ymchwil, mae pobol sy’n bwyta llawer o gig o’r fath 76% fwy tebygol na’r rhai oedd yn bwyta lleiaf o weld symptomau asthma yn gwaethygu.