Mae cyfres o ffrwydradau wedi bod ym marchnad dân gwyllt fwya’ adnabyddus Mecsico.

Brynhawn Mawrth, bu cyfres o ffrwydradau ym marchnad San Pablito ger Dinas Mecsico, lle cafodd o leia’ 29 o bobol eu lladd a dwsinau eu hanafu yn wael.

Mae 72 o bobol yn cael eu trin am eu hanafiadau gyda rhai wedi llosgi dros 90% o’u cyrff.

Cyflenwad uwch nag arferol

Nid yw awdurdodau lleol yn siŵr ynglŷn â beth achosodd y ffrwydradau, ac mae’n debyg fod cyflenwad tân gwyllt y farchnad yn uwch nag arfer.

“Mi roedd mwy  o gynnyrch na’r arfer oherwydd rydym yn agos i Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, adegau pan gaiff tân gwyllt eu defnyddio fwya’,” meddai Maer Tultepec.

Mae ffrwydradau o’r fath yn digwydd yn weddol reolaidd ym Mecsico a bu ffrwydradau tân gwyllt ym marchnad San Pablito yn 2005 a 2006.