Y farchnad Nadolig ym Merlin wedi'r ymosodiad (Llun: AP Photo/Markus Schreiber)
Mae’r awdurdodau sy’n ymchwilio i’r ymosodiad ar farchnad Nadolig ym Merlin yn credu eu bod nhw wedi arestio’r dyn anghywir, ac y gallai nifer o ymosodwyr fod wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Cafodd ceisiwr lloches 23 oed o Bacistan ei arestio wedi’r ymosodiad nos Lun ond mae’n gwadu ei fod yn gyfrifol ac mae’r heddlu yn yr Almaen wedi cyfaddef y gallai’r person oedd wedi cynnal yr ymosodiad fod wedi dianc.

Dywedodd yr erlynydd ffederal Peter Frank bod yr ymosodiad yn debyg i’r gyflafan yn Nice ym mis Gorffennaf pan gafodd 86 o bobl eu lladd, ac y gallai grwpiau eithafol Islamaidd fod y tu ôl i’r ymosodiad.

Ond tra bod yr ymosodiad ym mhrifddinas yr Almaen yn cael ei drin fel gweithred brawychol, nid oes unrhyw sefydliad wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, meddai Peter Frank.

Cafodd 11 o bobl eu lladd pan yrrodd lori at y dorf yn y farchnad ger Eglwys Kaiser Wilhelm, ynghyd a dyn o Wlad Pwyl a oedd wedi cael ei saethu’n farw yn y lori.

Ymweld â safle

Heddiw, bu Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac uwch-swyddogion yn ymweld â safle’r ymosodiad gan osod blodau a chanhwyllau yno.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May hefyd wedi rhoi teyrnged i’r rhai fu farw gan ddweud bod y digwyddiadau ym Merlin “wedi ein synnu ni i gyd.”

Dywed Scotland Yard eu bod yn adolygu’r paratoadau sydd eisoes ar y gweill i ddiogelu digwyddiadau cyhoeddus dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.