Mae Tŵr Eiffel wedi cael ei ail-agor yn dilyn pum niwrnod o streic gan weithwyr.

Dywedodd y cwmni sy’n rheoli’r safle, Sete eu bod nhw wedi dod i gytundeb ag undebau’r gweithwyr cyn ail-agor am ganol nos neithiwr.

Roedd undebau CGT ac F0 wedi bod yn galw am streic gan eu bod nhw’n awyddus i weithwyr fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, ac yn galw am neilltuo rhagor o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw.