Mae Tŵr Eiffel ynghau am bumed diwrnod ddydd Sadwrn wrth i ffrae tros amodau gwaith barhau.

Mae rheolwyr yr atyniad poblogaidd wedi ymddiheuro.

Ond mae undeb CGT yn dweud eu bod yn awyddus i weld gweithwyr yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau, a bod mwy o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith cynnal a chadw’r safle.

Mae nifer o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal dros y dyddiau diwethaf rhwng yr undeb a swyddogion cwmni SETE sy’n rheoli’r safle, ond ni fu cytundeb hyd yn hyn.

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau dros y penwythnos.

Dyma’r ergyd ddiweddaraf i ddiwydiant twristiaeth Paris, sy’n dal i ddioddef ar ôl y cyfres o ymosodiadau brawychol, llifogydd a llygredd awyr.