Barack Obama
Mae Arlywydd America Barack Obama wedi siarad yn uniongyrchol gydag Arlywydd Rwsia ynglŷn â hacio Rwsiaidd yn ystod etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Ddydd Iau gwnaeth y Tŷ Gwyn gyhuddo Vladimir Putin o ganiatáu hacio cyfrifiaduron gwleidyddion y Blaid Ddemocrataidd ac maent yn honni gwnaeth hyn ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad.

Mae Barack Obama wedi dweud bod angen gweithredu ac mae wedi addo y bydd yr Unol Daleithiau yn ymateb i’r weithred.

Mae’r Kremlin wedi gwadu’r cyhuddiad gyda’r llefarydd Dmitry Peskov yn ei alw’n “ddwli chwerthinllyd”.

Trump yn ymwybodol

Mae’r Tŷ Gwyn hefyd wedi cyhuddo’r darpar Arlywydd Donald Trump o fod yn ymwybodol o’r hacio.

Yn ôl un o uwch ymgynghorwyr Trump, Kellyanne Conway, mae’r cyhuddiadau yn ddi-sail.