Tref anghyfreithlon newydd - achos gwrthdaro mawr (llun golwg360)
Mae penodiad diweddara darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau yn debyg o gynhyrfu’r dyfroedd yn y berthynas rhwng Israel a’r Palestiniaid.

Mae Donald Trump wedi cyhoeddi mai dyn sy’n cefnogi trefi newydd anghyfreithlon Israel fydd llysgennad yr Unol Daleithiau i’r wlad.

Ac mae’n parhau i sôn am symud llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau i Jeriwsalem, cam a fyddai’n cythruddo’r Palestiniaid sy’n dal i hawlio rhan o ddwyrain y ddinas.

‘Y ddinas dragwyddol’

Dewis Donald Trump yw’r cyfreithiwr David Friedman sydd wedi cefnogi gweithredoedd Israel yn codi trefi newydd ar dir y Palestiniaid – un o achosion mwya’r gwrthdaro diweddar yn y wlad.

Wrth gael ei benodi, fe ddywedodd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at weithio o’r ‘ddinas dragwyddol’, sef Jeriwsalem – hynny er fod llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd yn y brifddinas Tel Aviv.

Mae’r Arlywydd presennol, Barack Obama, wedi bod yn fwy beirniadol o Israel.