Mae’r cenhedloedd unedig wedi rhybuddio y gall un allan o bob pum plentyn yng ngogledd Nigeria farw os nad ydyn nhw’n derbyn triniaeth feddygol.
Ar hyn o bryd mae hanner miliwn o blant yn wynebu newyn ac mae 80,000 ohonyn nhw’n wynebu marwolaeth.
Mae gwrthryfel y grŵp Islamaidd, Boko Haram, yn golygu bod rhannau helaeth o dalaith Borno yn rhy beryglus i grwpiau dyngarol fentro trwyddi gyda bwyd.
Ers dechrau’r gwrthryfel saith mlynedd yn ôl, mae 20,000 o bobol wedi cael eu lladd a 2.6 miliwn o bobol bellach yn ffoaduriaid.
Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Asiantaeth Blant y Cenhedloedd Unedig, Anthony Lake “gall yr argyfwng presennol droi’n drychineb”.
Fe ymosododd Boko Haram ar gonfoi dyngarol ym mis Gorffennaf gan niweidio gweithiwr Unicef, dau weithiwr dyngarol a dau filwr.