Vladimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi dweud ei fod yn barod i gwrdd â’r darpar Arlywydd America, Donald Trump.

Wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr dywedodd Vladimir Putin, “rydyn ni’n barod ar unrhyw adeg. Does dim problemau o’n hochr ni.”

Mae wedi cydnabod fod Donald Trump wedi galw am “normaleiddio’r berthynas” rhwng Rwsia ac America.

Wrth ymateb i hyn dywedodd Putin, “gallwn ni ddim ond cefnogi hyn.”

“Rydyn ni’n deall na fydd yn dasg hawdd o ystyried graddau diraddiad y berthynas Rwsia-America. Ond rydyn ni’n barod i wneud ein rhan ni,” meddai Arlywydd Rwsia.

Er hyn, dywedodd fod y cyfarfod yn fwy tebygol o gael ei gynnal ar ôl i Donald Trump gael ei sefydlu ym mis Ionawr.