Yr Aifft
Mae cyfnod o alaru’n cael ei gynnal yn yr Aifft heddiw i gofio am 25 o Gristnogion a laddwyd mewn eglwys yn Cairo dros y penwythnos.

Cafodd bom ei ffrwydro mewn capel wrth ymyl yr Eglwys Gadeiriol San Marc ddydd Sul, ac mae’n cael ei gyfrif fel un o’r ymosodiadau gwaethaf yn erbyn lleiafrif crefyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nid oes yr un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Bydd eirch y 25 o ddioddefwyr yn cael eu gosod gerbron yr allor ddydd Llun gydag enwau pob un ohonynt ar yr ochr yn wynebu’r gynulleidfa o berthnasau.

Yr ymosodiad gwaethaf yn erbyn Cristnogion cyn hyn oedd ffrwydrad yn Alexandria yn yr Aifft yn 2011 lle cafodd 21 o bobol eu lladd.