Bu'n rhaid i Matteo Renzi ymddiswyddo (Llun: PA)
Y Gweinidog Tramor Paolo Gentiloni yw Prif Weinidog newydd yr Eidal.
Cafodd gais gan yr Arlywydd Sergio Mattarella i ffurfio llywodraeth yn dilyn ymddiswyddiad Matteo Renzi.
Mae’r Prif Weinidog newydd yn un o gefnogwyr ei ragflaenydd a’i gydweithiwr yn y Blaid Ddemocrataidd.
Mae disgwyl iddo ffurfio’i lywodraeth dros y dyddiau nesaf.
Ond mae’n dod at y swydd ar adeg o ansefydlogrwydd ymhlith banciau’r wlad ac wrth i bleidiau gwrth-sefydliad a gwrth-Ewrop ennill poblogrwydd.
Daeth ymddiswyddiad Matteo Renzi ar ôl iddo golli refferendwm ar ddiwygio’r cyfansoddiad o 59% i 41%.