Mae o leiaf 39 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i dancer olew daro i mewn i nifer o gerbydau cyn ffrwydro ar un o brif ffyrdd Kenya.
Roedd y tancer yn teithio o’r brifddinas Nairobi i Naivasha yn hwyr nos Sadwrn.
Roedd adroddiadau’n dilyn y digwyddiad yn dweud bod 33 o bobol wedi cael eu lladd, ond mae’r ffigwr wedi cynyddu erbyn hyn, ac fe allai godi unwaith eto.
Cafodd 11 o gerbydau eu llosgi yn y ffrwydrad.
Mae Arlywydd y wlad, Uhuru Kenyatta wedi beirniadu gyrrwr y tancer am fod ar y ffordd ar y pryd, ac fe alwodd am ymchwiliad.
Ychwanegodd fod 11 o’r bobol a gafodd eu lladd yn swyddogion diogelwch oedd yn ei warchod yntau.