Mae o leiaf 25 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad ger eglwys gadeiriol yn Cairo.

Cafodd 35 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad ym mhrifddinas yr Aifft.

Hwn yw’r ail ymosodiad ar y ddinas dros y ddau ddiwrnod diwethaf.

Yn ôl y cyfryngau cenedlaethol, cafodd bom ei daflu i gyfeiriad Eglwys Gadeiriol San Marc, sy’n gartref i eglwys uniongred y wlad ac i’r Pab Tawadros II.

Ddydd Gwener, cafodd chwech o blismyn eu lladd yn dilyn ffrwydrad gan unigolion sydd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r Frawdoliaeth Foslemaidd.

Ond does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.