Mae 60 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i do eglwys ddymchwel yn ystod gwasanaeth yn Nigeria.

Roedd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo yn yr eglwys yn Uyo, prifddinas talaith Akwa Ibom, ac roedd gweithwyr wedi bod yn rhuthro i orffen y gwaith.

Roedd gwasanaeth cynta’r eglwys ddydd Sadwrn wedi’i neilltuo ar gyfer ordeinio’r sylfaenydd yn esgob.

Mae o leiaf 60 o gyrff wedi cael eu symud o’r safle, ond mae rhai pobol ar goll o hyd.

Mae disgwyl i lywodraeth y dalaith gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad rhag ofn bod rheolau adeiladu wedi cael eu torri.