Mae hunanfomiwr wedi lladd 23 o filwyr ac o leia’ 30 o bobol eraill mewn ffrwydriad yn ninas Aden yn ne Yemen.

Fe ffrwydrodd ei ddyfais yng nghanol cannoedd o filwyr a oedd yn ciwio i gasglu eu cyflogau yng ngwersyll y fyddin Solban. Mae beth bynnag 30 o filwyr hefyd wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Does yr un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn, ond mae adroddiadau lleol yn dweud ei fod yn ymddangos yn debyg i ddulliau gweithredu al-Qaida.