Mae beth bynnag bedwar o bobol wedi’u lladd, a 23 o bobol wedi’u hanafu, wedi i drên ddod oddi ar y cledrau ac i gynhwysydd nwy ffrwydro yn Bwlgaria.

Mae tua 20 o adeiladau ym mhentre’ Hitrino yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi’u dinistrio yn y ffrwydriad yn gynnar fore Sadwrn.

Mae’r ardal o gwmpas y ddamwain wedi’i chau, ac mae pobol wedi cael eu symud o’u tai, wrth i’r gwaith clirio ac ymchwilio ddechrau.