Mae arbrofion DNA yn mynd i gael eu cynnal yn Islamabad er mwyn adnabod cyrff y rhai wnaeth farw mewn damwain awyren ym Mhacistan.

Bu farw 47 o bobol pan syrthiodd awyren Cwmni Hedfan Rhyngwladol Pacistan o’r awyr ddydd Mercher ger pentref y tu allan i brifddinas y wlad.

Hyd yma dyw staff ysbyty Abbottabad ddim  ond wedi medru adnabod pump corff, oherwydd y llosgiadau ar y gweddill.

Nam ar yr injan

O’r 47 wnaeth farw roedd 42 yn deithwyr a 5 yn aelodau o’r criw.

Roedd yr awyren yn teithio o Chitral i Islamabad pan syrthiodd o ganlyniad i nam ar yr injan.