Mae’r Pab Ffransis wedi rhybuddio rhag y peryg o gyhoeddi straeon newyddion ffug ar y we.

Roedd ef ei hun wedi’i enwi ar gam yn un o gefnogwyr Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America, mewn stori wneud yn gynharach eleni.

Mewn cyfweliad sydd wedi’i gyhoeddi yn y cylchgrawn Pabyddol, Tertio, yng ngwlad Belg, mae’r Pab yn dweud fod yna beryg go iawn i’r cyfryngau lithro i gyhoeddi straeon difrïol, celwyddgar, enllib a sgandal.

“Mae’n beryg mai’r difrod mwya’ y gall y cyfryngau ei wneud, ydi dosbarthu gwybodaeth ffug,” meddai Ffransis. “Mae’r farn gyhoeddus wedyn yn cael ei stumio, ac mae rhan o’r gwirionedd yn cael ei anwybyddu.”

Wedi iddo ef ei hun ei enwi yn un o gefnogwyr Donald Trump eleni, roedd yn awyddus iawn i bwysleisio nad yw’r Pab yn cefnogi’r un ymgeisydd gwleidyddol yn yr un wlad. “Ond mae hi’n bwysig fod pob Pabydd sy’n pleidleisio yn astudio’r hyn sydd ar y bwrdd, yn gweddïo ac yn dewis yn ôl ei gydwybod”.