Bill English
Mae disgwyl i Bill English ddod yn Brif Weinidog Seland Newydd, wedi ymddiswyddiad annisgwyl John Key.

Mae’r ddau arall oedd yn y ras wedi tynnu’n ôl ben fore Iau, gan gydnabod fod Bill English wedi sicrhau mwyafrif y gefnogaeth yr oedd o ei hangen o blith ei gyd-aelodau yn y senedd.

Mae hyn yn golygu y bydd Bill English yn dod yn Brif Weinidog yn swyddogol ddydd Llun nesa’, Rhagfyr 12.

Mae wedi bod yn ddirprwy ffyddlon i John Key ers wyth mlynedd, ac mae wedi’i ganmol am y modd y mae wedi trin economi Seland Newydd, yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog Cyllid. Ond, mae ei feirniaid y dweud nad oes gan Bill English y bersonoliaeth na’r carisma sydd ei angen ar gyfer yr uchel swydd.

Fe fu’n arweinydd ei blaid unwaith o’r blaen, gan ei harwain i golled yn etholiad 2002.