Does gan lywodraeth Gwlad Thai ddim bwriad gwneud tro pedol ar ôl penderfynu y bydd cwmnïau newyddion sy’n cyhoeddi deunydd “anghyfreithlon” yn cael eu herlyn.

Mae swyddfa’r BBC yn Bangkok dan y lach ar hyn o bryd ar ôl cyhoeddi erthygl am frenin newydd y wlad.

Roedd yr erthygl yn cynnwys manylion am fywyd preifat y brenin Maha Vajiralongkorn Bodindradebayavarangkun o’r adeg pan oedd e’n dywysog. Mae e wedi ysgaru dair gwaith.

Yn dilyn cyhoeddi’r erthygl, ymwelodd y fyddin a heddlu’r wlad â’r swyddfa.

Gwarchod y frenhiniaeth

Mae cyfreithiau Gwlad Thai yn atal y cyfryngau rhag pardduo’r frenhiniaeth, ac mae’r gosb yn amrywio o dair blynedd i 15 mlynedd o garchar.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn y wlad, Prawit Wongsuwan na fyddai “eithriadau” i’r penderfyniad i erlyn cwmnïau.

Mae swyddfa’r BBC yn Bangkok ynghau o hyd ond mae’r wefan yn dal yn fyw, er bod mynediad i’r erthygl dan sylw wedi’i atal yng Ngwlad Thai.