Mae De Corea yn rhoi’r bai ar Ogledd Corea am hacio system gyfrifiadurol byddin De Corea a rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol.

Cafodd y cyhuddiad ei wneud ddydd Mawrth mewn cynhadledd newyddion gan lefarydd ar ran Adran Amddiffyn De Corea.

Dywedodd Moon Sang-gyun eu bod yn credu mai Gogledd Corea oedd y tu ôl i’r ymosodiad seibr ar fewnrwyd y fyddin.

Mae Gogledd Corea wedi cael ei chyhuddo yn y gorffennol o hacio cyfrifiaduron De Corea ond dyma’r tro cyntaf iddi lwyddo i hacio mewnrwyd y fyddin.

Dywedodd byddin De Corea bod yr adran a gafodd ei hacio wedi ei ynysu yn syth ar ôl i’r ymosodiad ddod i’r amlwg.