Mae o leiaf 11 o bobol wedi’u lladd wrth i dân mawr ymledu drwy westy pedair seren yn Karachi ym Mhacistan, lle’r oedd aelodau o dîm criced Pacistan yn aros.

Mae mwy na 50 o bobol, gan gynnwys ymwelwyr o dramor, wedi dioddef anafiadau o ganlyniad i’r tân, ac mae’n debyg iddo ddechrau yng nghegin y gwesty.

Mae un o aelodau’r tîm criced wedi sôn iddo dorri ei bigwrn wrth neidio a dianc o’r adeilad.

Mae lluniau ar deledu’r wlad yn dangos ymwelwyr yn defnyddio lleiniau gwely i ddringo allan drwy’r ffenestri.

Dywedodd llefarydd ar ran ysbyty Jinnah yn Karachi fod rhai ymwelwyr o dramor yn cael eu trin am anafiadau llosg, ac mai mogi oedd achos y rhan fwyaf o’r marwolaethau.