Mae Prif Weinidog yr Eidal Matteo Renzi wedi ymddiswyddo ar ôl iddo brofi gwrthwynebiad mawr mewn refferendwm i’w gynlluniau i ddiwygio’r cyfansoddiad.

Cynhaliwyd y refferendwm ddydd Sul ac roedd canlyniadau’n awgrymu bod 57% o bleidleiswyr yn gwrthod ei gynlluniau, ar ôl i tua 70% o drigolion y wlad fwrw pleidlais.

Roedd Matteo Renzi yn dadlau y byddai’r diwygiad yn lleihau biwrocratiaeth yn yr Eidal ac yn gwneud y wlad yn fwy cystadleuol.

Ond mae ei wrthwynebwyr yn gobeithio manteisio ar y daliadau poblogaidd, gwrth-sefydliadol sydd wedi cael eu gweld yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yn ddiweddar.

Roedd Matteo Renzi yn un o’r ychydig arweinwyr oedd yn weddill gyda gweledigaeth am ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r marchnadoedd ariannol yn paratoi ar gyfer rhagor o ansefydlogrwydd yn sgil pryderon y gallai ei ymddiswyddiad wanhau’r ewro ymhellach.