Matteo Renzi, prif weinidog yr Eidal (llun: PA)
Mae’r Eidalwyr yn pleidleisio mewn refferendwm ar newidiadau cyfansoddiadol heddiw.

Mae’r prif weinidog Matteo Renzi wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo os caiff y diwygiadau eu gwrthod, ac mae gwleidyddion y gwrthbleidiau wedi dweud y byddan nhw’n pwyso am lywodraeth newydd.

Mae’r ofnau am ansefydlogrwydd ariannol wedi achosi cynnwrf ar farchnad stoc y wlad a chynnydd mewn costau benthyg.

Mae’r refferendwm yn ymwneud â chynigion i symleiddio proses drwsgl y wlad o ddeddfu trwy leihau pwerau’r senedd, a thynnu rhai pwerau oddi wrth y rhanbarthau.