Baner y wladwriaeth Islamaidd
Mae’n ymddangos bod gwrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) wedi gallu manteisio ar dywydd gwael i lansio ymosodiadau ar luoedd llywodraeth Irac gerllaw dinas Mosul.
Fe ddigwyddodd dau ymosodiad fwy neu lai union yr un pryd: un yn Tal Afar i’r gorllewin o Mosul, a’r llall yn Shirqat i’r de o’r ddinas.
Gallai hyn fod oherwydd y niwl tew, glaw a stormydd llwch sy’n ei gwneud hi’n anodd i filwyr Irac neu’r glymblaid o dan arweiniad America gael cefnogaeth o’r awyr.
Mewn datganiad, mae’r gwrthryfelwyr yn honni iddyn nhw ladd ‘dwsinau’ o filwyr mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr a bod rhagor o ymosodwyr wedyn wedi gorfodi’r milwyr i ddianc yn Tal Afar. Yn ôl y datganiad, mae’r gwrthryfelwyr wedi cipio naw cerbyd arfog oddi ar y milwyr.
Dywed llefarydd ar ran byddin Irac fod yr ymladd yn parhau yno.
Cafodd Tal Afar a Mosul eu cipio gan ISIS yn 2014 mewn cyrch sydd wedi eu galluogi i reoli tiriogaeth helaeth yng ngogledd a gorllewin Irac.
Ers mis Hydref, mae llywodraeth Irac wedi lansio ymgyrch anferth i ailgipio Mosul, dinas ail fwyaf y wlad a’r ganolfan drefol fawr olaf sy’n dal yn nwylo ISIS yn Irac.