Tim pel-droed Chapecoense o Brasil yn dathlu ar ol ennill gem gyn-derfynol Copa Sudamericana llun: (AP Photo/Andre Penner)
Mae dros 100,000 o bobl yn ninas Chapecoense yn Brasil wedi bod yn talu’r deyrnged olaf i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y tîm pêl-droed lleol a fu farw mewn trychineb awyren.

Roedd 71 allan o’r 77 o bobl a oedd ar fwrdd yr awyren yn Colombia ddydd Llun wedi cael eu lladd, gan gynnwys 19 o chwaraewyr y tîm.

Roedden nhw ar eu ffordd i rowndiau terfynol un o’r cystadlaethau clwb pwysicaf yn America Ladin.

Roedd tua 20,000 o alarwyr wedi eu gwasgu i mewn i’r stadiwm fach, gyda phedair neu bump gwaith hynny y tu allan – sy’n cyfateb i tua hanner poblogaeth y ddinas.

Cafodd y cyrff eu hedfan yn ôl dros nos o Colombia, ac roedd arlywydd Brasil, Michel Temer ymhlith y rhai a oedd yn y maes awyr i gydnabod yr eirch yn mynd heibio.