Traffig yn Madrid (llun: Huw Prys Jones)
Mae pedair prifddinas wedi ymrwymo i wahardd cerbydau diesel o’u dinasoedd erbyn 2025.

Mewn uwch-gynhadledd fyd-eang yn Ninas Mecsico, mae Dinas Mecsico, Paris, Madrid ac Athen wedi cytuno i weithio tuag at y nod.

Dywed datganiad ar y cyd ganddyn nhw y bydd yr ymrwymiad yn lleihau llygredd yr awyr a phroblemau iechyd cysylltiedig, ac yn helpu’r dinasoedd i gyflawni amcanion byd-eang ar yr hinsawdd.

Mae meiri dwsinau o ddinasoedd mwyaf y byd yn cyfarfod yn Ninas Mecsico yr wythnos yma i rannu gwybodaeth a thrafod camau ymarferol i leihau allyriadau carbon.