Mae’r tywysog Harry a’r gantores Rhianna wedi cael prawf HIV yn Barbados er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r firws ar Ddiwrnod Rhyngwladol Aids.

Roedd y ddau yn rhan o ddathliadau yn Barbados neithiwr i nodi 50 mlynedd ers i’r wlad ennill ei annibyniaeth, cyn cael y prawf HIV mewn ysbyty yn y brifddinas Bridgetown heddiw.

Mae Harry wedi bod yn ymgyrchu am fisoedd i annog pobol i gael profion HIV, sydd erbyn hyn yn medru cael ei reoli gyda chyffuriau.

Mae dynion yn Barbados yn wynebu risg uchel o ddioddef o HIV yn ôl adroddiadau, sydd hefyd yn dweud eu bod yn fwy tebygol o gael diagnosis hwyr o’r firws.