Mae ymchwiliad ar y gweill yn Colombia ar ôl i 71 o bobol gael eu lladd ar ôl i awyren daro i mewn i ochr mynyddoedd yr Andes.

Dim ond chwech o bobol oedd wedi goroesi’r daith oedd yn cludo tîm Chapecoense i rownd derfynol Copa Sudamericana.

Roedd 21 o newyddiadurwyr hefyd ar fwrdd yr awyren.

Roedd criw’r awyren wedi datgan argyfwng ac wedi colli cyswllt radar toc cyn 10 o’r gloch nos Lun, yn ôl asiantaeth yng Ngholombia, ac mae blychau duon yr awyren yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd.

Roedd lle i gredu ar y dechrau fod nam trydanol yn gyfrifol am y digwyddiad, ond fe allai’r glaw trwm fod wedi chwarae rhan hefyd.

Yn ôl adroddiadau, fe allai’r awyren hefyd fod wedi rhedeg allan o danwydd ychydig funudau cyn yr amser yr oedd i fod i lanio mewn maes awyr ym Medellin.

Mae gemau pêl-droed ar draws Dde America wedi cael eu gohirio fel arwydd o barch, tra bod tîm Real Madrid yn Sbaen wedi cynnal munud o dawelwch wrth ymarfer.

Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi teyrngedau i’r rhai fu farw mae’r cyn-chwaraewr o’r Ariannin, Diego Maradona.

Y chwilio

Yn yr oriau’n dilyn y digwyddiad, cafodd tri o bobol eu darganfod yn fyw, ond mae’r chwilio wedi arafu rywfaint erbyn hyn o ganlyniad i’r tywydd.

Mae’r gwaith o gasglu cyrff y rhai fu farw eisoes wedi dechrau.

Roedd lle i gredu’n wreiddiol bod 81 o bobol ar yr awyren, ond doedd pedwar ohonyn nhw ddim ar y daith.

Mae tri o chwaraewyr pêl-droed wedi goroesi, ond wedi cael anafiadau difrifol, gydag un yn aros am lawdriniaeth ar ei gefn, ac un arall wedi colli ei goes.

Mae newyddiadurwr hefyd wedi cael llawdriniaeth, ac mae dau aelod o griw’r awyren mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.