Mae adroddiadau bod saith o bobl wedi’u hanafu gan berson arfog ar gampws Prifysgol Talaith Ohio yn yr Unol Daleithiau.

Mae rheolwr  y brifysgol wedi rhybuddio’r myfyrwyr bod person arfog ar y campws ac y dylen nhw chwilio am loches.

Credir bod y person wedi gwneud ei ffordd i adeilad Neuadd Watts, sef adeilad gwyddoniaeth a pheirianneg y coleg.

Mae’r brifysgol wedi dweud wrth y myfyrwyr am “redeg, cuddio ac ymladd”, sy’n brotocol adnabyddus yn America os oes bygythiad gan saethwr posib.

Mae gwefan CNN yn adrodd bod saith o bobol wedi eu hanafu ac wedi’u cludo i’r ysbyty ond does dim manylion am eu cyflwr hyd yn hyn.