Fidel Castro (llun: PA)
Mae teyrngedau wedi bod yn llifo i Fidel Castro, cyn-arlywydd Cuba, a fu farw neithiwr.

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi ei ddisgrifio fel arwr a chanmolodd y newidiadau cymdeithasol a gyflwynodd i’w wlad.

“Roedd yn ffigur anferthol yn hanes y blaned gyfan,” meddai. “Dw i’n meddwl fod y bydd hanes yn dangos fod Castro yn ffigur mor allweddol fel ei bod yn ymddangos ei fod wedi bod gyda ni erioed.”

Dywedodd arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, fod Castro wedi arwain ei bobl trwy broses ryfeddol o newid cymdeithasol a gwleidyddol.

“Fe fydd Fidel Castro yn cael ei gofio fel cawr ymysg arweinwyr y byd gyda’i weledigaeth o ryddid i holl bobl gorthrymedig y byd yn ogystal â’i bobl ei hun,” meddai.

Dywedodd prif weinidog India, Narenda Modi, fod India yn galaru ar ôl colli cyfaill mawr.

“Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf â Llywodraeth a phobl Cuba ar farwolaeth trist Fidel Castro,” meddai. “Gorffwysed ei enaid mewn hedd.”

‘Un o gewri’r 20fed ganrif’

Roedd Castro yn un o gewri’r 20fed ganrif, yn ôl cyn-faer Llundain, Ken Livingstone, sy’n beio erledigaeth llywodraethau America yn erbyn Cuba am broblemau’r wlad heddiw.

“Wrth gwrs fe wnaeth Fidel bethau anghywir, ond roedd yn dda i’r bobl,” meddai.

“Y peth pwysig oedd fod pobl yn cael addysg dda, gofal iechyd da a chyfoeth yn cael ei rannu’n deg.”

Canmolodd yr Arglwydd Peter Hain, a fu’n ymgyrchydd gwrth-apartheid pan oedd yn ifanc, safiad Castro yn erbyn De Affrica.

“Ei luoedd oedd yn gyfrifol am orchfygu lluoedd De Affrica am y tro cyntaf yn Angola yn 1988, trobwynt allweddol yn y frwydr yn erbyn apartheid,” meddai.

Sylw’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson oedd: “Mae marwolaeth Fidel Castro yn nodi diwedd cyfnod yn Cuba a dechrau cyfnod newydd i bobl Cuba.”

Miloedd yn dawnsio

Ar y llaw arall, roedd miloedd yn dawnsio ar y stryd yn Miami o fewn hanner awr i’r cyhoeddiad fod Castro wedi marw.

Roedd sŵn cerddoriaeth salsa i’w glywed o geir a thân gwyllt yn goleuo’r awyr yn ardal Little Havana o’r ddinas yn oriau mân y bore.

Dyma’r rhan o’r ddinas lle’r ymgartrefodd rhai o’r miloedd o bobl Cuba a ffôdd o’u gwlad pan wnaeth Castro cipio grym yn 1959. Roedd rhai ohonyn nhw’n deyrngar i’r cyn-arlywydd Fulgencio Batista ac yn eu plith roedd rhai a gymerodd ran yn ymgais aflwyddiannus ymosodiad y Bay of Pigs i ddisodli Castro.

Ofer fu gobeithion yr alltudion hyn a welodd Castro yn goroesi deg o arlywyddion yr Unol Daleithiau.

Bellach mae llawer o’u disgynyddion yn ffurfio cymuned ddylanwadol yn America fel miliwnyddion, arweinwyr gwleidyddol, clerigwyr ac athrawon, sy’n unedig yn eu casineb at Castro.