Arfbais talaith Wisconsin, yn ardal Llynnoedd Mawr America
Fe fydd pleidleisiau etholiad arlywyddiaeth America’n cael eu hail-gyfrif yn nhalaith Wisconsin yn sgil cais gan ymgeisydd y Blaid Werdd yn yr etholiad, Jill Stein.

Profodd Wisconsin, ynghyd â dwy dalaith ddiwydiannol gyfagos, Michigan a Pennsylvania, i fod yn allweddol ym muddugoliaeth Donald Trump yn erbyn Hillary Clinton. Llwyddodd Trump i ennill y tair talaith o drwch blewyn, er iddi ddod i’r amlwg bellach fod Clinton wedi cadel bron i ddwy filiwn yn fwy o bleidleisiau nag efo ledled y wlad.

Dywed Jill Stein mai ei gobaith yw sicrhau ail-gyfrif yn Pennsylvania a Michigan hefyd. Roedd y tair talaith wedi bod yn gadarnleoedd i’r Democratiaid dros y degawdau diwethaf, ond fel taleithiau eraill, enillodd Trump lawer o dir mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol yma.