Fe allai tymheredd yr ynysfor Arctig Svalbard godi’n uwch na’r rhewbwynt am y tro cyntaf ers cychwyn cadw cofnodion, yn ôl gwyddonwyr.

Yn ôl Sefydliad Meterolegol Norwy, fe allai’r tymheredd yn nhref Longyearbyen yn Svalbard fod o gwmpas 0C gydag ychydig dros fis o’r flwyddyn yn weddill.

Yn ôl un o wyddonwyr y sefydliad, Ketil Isaksen, mae tymereddau o’r fath yn “syfrdanol” ac yn fwy na’r hyn y gallai ef ddychmygu ddeng mlynedd yn ôl.

Fel arfer mae cyfartaledd blynyddol Svalbard i’r gogledd o’r cylch Arctig ym minws 6.7C, ac mae’r tymheredd yn y misoedd diwethaf wedi bod yn gynhesach na’r cyfartaledd.