Roedd y pererinion wedi bod yn ymweld ag allor yn ninas Kabala (Asiantaeth Newyddion Tasnim CCA4.0)
Mae o leia’ 73 o bobol wedi eu lladd gan fom mewn lorri yn Irac neithiwr.
Roedd 40 ohonyn nhw yn bererinion o Iran ar eu ffordd o allor sanctaidd yn ninas Kabala.
Fe hawliodd y grwp brawychol IS mai nhw oedd yn gyfrifol ac mae’n ymddangos eu bod wedi targedu’r pererinion Shiaidd yn gwbl fwriadol.
Roedd y bom mewn lorri a ffrwydrodd gerllaw gorsaf betrol ar ymyl priffordd ar gyrion prifddinas Irac, Baghdad.
Mae tua 65 o bobol hefyd wedi eu hanafu.