Prifddinas Twrci, Istanbul
Mae bom car yn targedu un o adeiladau’r llywodaeth y ne Twrci, wedi lladd beth bynnag ddau o bobol ac anafu 16 o bobol eraill.

Yr ymosodiad yn Adana yw’r diweddara’ mewn cyfres sydd wedi ysgwyd Twrci ers dros flwyddyn a mwy, a hynny dan law gwrthryfelwyr Cwrdaidd neu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae adroddiad gan asiantaeth newyddion Anadolu yn dweud i’r bom ffrwydro mewn maes parcio ger y fynedfa i un o swyddfeydd y llywodraeth. Y gred ydi mai menyw oedd yn gyfrifol am ffrwydro’r ddyfais.