Heddlu Ffrainc Llun: PA
Mae saith o bobol wedi’u harestio yn Ffrainc wrth i’r heddlu atal “ymosodiad brawychol posibl.”

Yn ôl un o weinidogion Ffrainc, Bernard Cazeneuve, mae’r arestiadau wedi atal “gweithred frawychol oedd wedi cael ei ragweld ers amser hir.”

Cafodd y saith eu harestio yn Strasbwrg a Marseille, a hynny bum diwrnod cyn i’r farchnad Nadolig poblogaidd agor yn Strasbwrg sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o Ewrop ac a fu’n darged i gynllwyn brawychol a fethodd yn 2000.

Mae’r saith o dras Ffrengig, Morocaidd ac Affgan a rhwng 29 a 37 oed, ac mae’n debyg nad oedd y gwasanaethau cudd-wybodaeth yn gwybod am chwech ohonyn nhw.

Ni wnaeth Bernard Cazeneuve ddatgelu pa leoliad oedd yn rhan o gynllwyn yr ymosodiad posib.

Ychwanegodd fod 43 o bobol wedi’u harestio ym mis Tachwedd yn unig fel rhan o weithrediadau gwrth-frawychiaeth yn dilyn cyfres o ymosodiadau ar Ffrainc yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.