Mae nifer y meirw yn sgil y ddamwain drên waethaf yn India ers blynyddoedd wedi codi i 145 ddydd Llun.

Mae timau achub yn defnyddio craeniau i godi darnau o fetel er mwyn chwilio am ragor o gyrff.

Roedd y trên ar daith rhwng dinasoedd Indore a Patna pan ddaeth oddi ar y cledrau yn oriau man y bore ddydd Sul.

Roedd y ddamwain wedi achosi i un cerbyd lanio ar ben y llall, gan wasgu’r un oddi tano.

Bu timau achub a’r fyddin yn gweithio dros nos i achub pobl a oedd yn sownd yn y trên.

Mae’n debyg bod 226 wedi’u hanafu, 76 ohonyn nhw yn ddifrifol, yn ôl yr awdurdodau lleol.

Mae damweiniau yn weddol gyffredin ar rwydwaith trenau India ac yn ôl adroddiad gan lywodraeth y wlad yn 2012, mae tua 15,000 o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn mewn damweiniau trên.

Mae’r Prif Weinidog Narendra Modi wedi rhoi addewid i fuddsoddi £111 biliwn dros y pum mlynedd nesaf i foderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd India.