Mae dyn 21 oed wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Efrog Newydd.
Roedd ffrwgwd rhwng y tri wrth i’r heddlu ymateb i alwad frys yng nghartref Erickson Brito ar nawfed llawr adeilad yn Brownsville yn Brooklyn.
Mae lle i gredu bod y ffrwgwd wedi dechrau ar ôl i’r heddlu ofyn am gerdyn adnabod gan y dyn.
Cafodd y plismyn eu taro yn eu pennau â phastwn cyn iddyn nhw saethu’r dyn yn farw.
Mae’r ddau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.