Mae 90 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau yng ngogledd India.
Bu’n rhaid i weithwyr achub dorri goroeswyr yn rhydd o 14 o goetsys ar ôl y digwyddiad yn Pukhrayan ger dinas Kanpur yn nhalaith Uttar Pradesh am 3.10yb.
Mae nifer o gyrff wedi cael eu tynnu o’r safle.
Cafodd dros 150 o bobol eu hanafu ar ôl mynd yn gaeth pan darodd coetsys yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd yr heddlu fod disgwyl i nifer y meirw godi wrth i’r gwaith o dynnu pobol oddi yno barhau.
Mae nifer o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.
Does dim awgrym ar hyn o bryd fod y trên yn teithio’n rhy gyflym.
Mae cannoedd o drenau’n teithio drwy ddinas ddiwydiannol Kanpur bob dydd, ond mae’r llinell ynghau am y tro wrth i drenau gael eu dargyfeirio.